P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ken Ebihara, ar ôl casglu 54 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol unigol yn dyrannu o leiaf 50 y cant o’u dyraniadau amcanol i waith ieuenctid drwy’r ‘Grant Cynnal Refeniw’.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r mater o p’un ai y dylid neilltuo symiau penodol o’r ‘Grant Cynnal Refeniw’ ar gyfer gwaith ieuenctid ai peidio eisoes wedi’i nodi yn un o’r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y ‘Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n ffaith bod yna fwlch rhwng y cyfraniadau ariannol gwirioneddol i waith ieuenctid gan awdurdodau lleol unigol drwy’r Grant Cynnal Refeniw a’r dyraniad amcanol ar gyfer y gwaith hwn.

Mae hyn yn hanfodol i sicrhau a chynnal ansawdd y gwaith a wneir gyda phobl ifanc yng Nghymru er mwyn iddynt gael cyfleoedd gwerthfawr i wella eu hunain mewn amgylchedd cefnogol. Ni ddylai’r ffactor hanfodol hwn ddibynnu ar benderfyniadau awdurdodau lleol yn unig, sy’n amrywio o un i’r llall oherwydd eu blaenoriaethau o ran gwariant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn fwy rhagweithiol i sicrhau bod y lefel isaf yn cael ei chynnal o ran ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru.

Mae neilltuo rhannol yn atal awdurdodau lleol unigol rhag gostwng ymhellach lefel yr adnoddau ariannol sy’n cael eu gwario ar waith ieuenctid, gan eu galluogi i gynnal rhywfaint o annibyniaeth wrth flaenoriaethu eu gwariant yn unol â’u blaenoriaethau unigol. Efallai mai’r syniad penodol hwn yw’r ateb mwyaf realistig i’r mater.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad